Gofyn i drigolion ddweud eu dweud ar gynllun Datblygu Lleol newydd Casnewydd
Wedi ei bostio ar Friday 8th January 2021
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gofyn i'r cyhoedd ddweud eu dweud i lywio cynnwys y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diweddaraf.
Y CDLl yw'r cynllun datblygu ar gyfer Casnewydd. Dyma'r sail ar gyfer cynllunio defnydd tir o fewn ardal weinyddol y cyngor a byddyn rhedeg rhwng 2021 a 2036.
Ar 14 Hydref 2020 cytunodd y cyngor i ddechrau proses adolygu ffurfiol y CDLl ac mae ymgynghori bellach yn digwydd ar ddwy ddogfen CDLl allweddol - yAdroddiad Adolygua'rCytundeb Cyflawni.
Dwedodd y Cynghorydd Deb Davies – Aelod y Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy: "Mae'r cynllun datblygu lleol yn ddogfen bwysig a fydd yn llywio polisi a phenderfyniadau cynllunio ar gyfer y ddinas tan 2036. Mae’r meysydd y canolbwyntia arnynt yn cynnwys tai, cyflogaeth, cynaliadwyedd, tai fforddiadwy, yr amgylchedd, llain las, trafnidiaeth, manwerthu, safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a gwastraff.
Mae hwn yn gam cyntaf pwysig ym mhroses y cynllun datblygu a byddem yn eich annog i roi eich adborth ar y naill ddogfen neu'r llall neu'r ddwy ddogfen yma.
Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys sut i roi adborth ar gael yn www.newport.gov.uk/ldp.
Daw’r ymgynghoriad i ben ar 5 March 2021.