Ystadegau a data
Cyfrifiad 2021
Yn fuan, bydd gofyn i gartrefi ar draws Casnewydd gymryd rhan yn yr arolwg cenedlaethol o dai a'r boblogaeth. Mae wedi cael ei gynnal bob degawd ers 1801, ac eithrio 1941.
Bydd gwybodaeth o'r cyfrifiad digidol yn gyntaf yn helpu i benderfynu sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u hariannu yn eich ardal leol. Gallai hyn olygu pethau fel meddygfeydd, tai neu lwybrau bysiau newydd.
Bydd cartrefi yn cael llythyr â chod mynediad unigryw yn y post a fydd yn eu galluogi i lenwi eu holiadur ar lein. Bydd holiaduron papur ar gael ar gais. Diwrnod y Cyfrifiad fydd 21 Mawrth.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cyfrifiad.gov.uk.
Census 2021 Job Opportunities - Apply Now!
The Office of National Statistics needs to recruit 30,000 Census field staff in the UK. Please visit censusjobs.co.uk to find out more.
Cyfrifiad 2011
Cynhaliwyd cyfrifiad diweddaraf y DU ar 27 Mawrth 2011, mae’r holl ganlyniadau ar wefan Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Proffiliau cymunedol Casnewydd
Mae’r proffiliau cymunedol yn rhoi gwybodaeth am bobl a chymunedau Casnewydd.
Lawrlwythwch y proffiliau isod:
Darllenwch fwy am broffiliau llesiant cymunedol Casnewydd
Atlas Casnewydd
Atlas Casnewydd yw’r parth gwybodaeth ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Casnewydd yn Un.